Cymraeg / 
				Welsh. 
				Bu aelodau o 
				Gymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a’r Fro, yn ogystal â 
				ffrindiau, ar daith byth-gofiadwy yn ddiweddar, i ymweld â 
				beddau a chofgolofnau’r sawl sydd wedi eu henwi ar gofeb pentref 
				Eglwyswrw. Treuliwyd dwy noswaith yn Arras yn y Somme, 
				Ffrainc, a dwy noswaith yn Yprès yng Ngwlad Belg. Rhoddwyd torch 
				fawr ar pob bedd a torch fechan ger pob cofgolofn, y torchau 
				wedi eu gweithio gan aelodau Clwb Crefft a Chlonc, Eglwyswrw. Ar 
				y diwrnod cyntaf, yn ogystal â mynwentydd o ddiddordeb i 
				drigolion Eglwyswrw a’u ffrindiau, aeth y grwp i Goedwig Mametz. 
				Yma ym mis Gorffennaf 1916, yn ystod y frwydr am Mametz Wood 
				anafwyd dros 4,000 o Gymru. Dyluniwyd y gofeb, sy'n drawiadol tu 
				hwnt, gan Dave Petersen o San Clêr. Dydd Mawrth, ar ôl ymweld 
				â Chofeb Arras, teithiwyd ymlaen tua Gwlad Belg, gan aros eto 
				mewn mynwentydd a chofgolofnau perthnasol i'r pentref neu i 
				gyd-deithwyr. Mynychodd pawb wasanaeth y Menin Gate y noson 
				honno. Dydd Mercher, mi ddaeth cyfle i ymweld a bedd Hedd 
				Wyn, ble darllenwyd cerdd R. Williams-Parry 'Hedd Wyn', gan 
				Bronwen Davies, a cherdd Hedd Wyn, 'Rhyfel', gan Meilyr Tomos.
				 
				Arhoswyd am beth 
				amser hefyd yn Parc Cofio'r Cymry gerllaw, mae'r Gofeb hyn ar 
				ffurf Cromlech, y cerrig wedi eu cludo o chwarel ger Pontypridd, 
				a’r ddraig goch wedi ei chreu gan Lee Odishow uwchben. Gwaith 
				Malcolm Gray o Dyddewi yw'r llechen o'i blaen, wedi'i arysgrifio 
				yn Gymraeg, Saesneg a Fflemeg, ynghyd ag arwyddluniau gatrawd ar 
				y meini hirion yn rhestr y tu ôl i’r Gofeb. Buom yn ymweld a 
				Mynwent Milwrol Almaeneg ger Langemark, man gorwedd 44,000 o 
				filwyr Almaeneg. 
				Roedd yn foment 
				yn fawr i Dave Mathias a’i wraig Jan, yng nghwmni dau aelod o’r 
				Gymdeithas Treftadaeth, wrth iddynt gael yr anrhydedd o gymryd 
				rhan yn y gwasanaeth swyddogol yn y Menin Gate.  
				Gosodwyd dorch 
				gan Dave i gofio ei ddatcu, Idris Mathias a anwyd yn Eglwyswrw. 
				Mae’r gwasanaeth yn digwydd yn Menin Gate am 8 o'gloch y nos pob 
				diwrnod o’r flwyddyn gyda’r ‘Post Olaf’ yn cael ei swnio gan 
				aelodau o'r Gwasanaeth Tân. Er gweld miloedd o feddau rhyfel, 
				rhyfedd oedd clywed bod trigolion lleol yn dal i ddod o hyd i 
				weddillion milwyr mewn gwahanol fannau, a hynny dros can mlynedd 
				yn ddiweddarach. Bu angladdau milwrol i dri milwr yn y dyddiau 
				roeddwn yn yr ardal, dau o Brydain ac un o Ganada. Mae'n beth 
				cysur i'w teuluoedd eu bod, o’r diwedd, wedi cael cydnabyddiaeth 
				ac angladd barchus. Diolch i Gaynor Jenkins a Will Thomas am 
				drefnu'r daith, ac i Shôn (Midway) am ein cludo ar hyd rhai 
				ffyrdd hynod o gul ac anodd o un mynwent i’r llall yn gyfforddus 
				ac yn ddi-ffwdan. Cafwyd amser hwylus iawn gan bawb. 
				Ni â'u 
				cofiwn.
  
			 
			 | 
			
			  English / Saesneg. 
			Members of Eglwyswrw and District 
			Heritage Society, and friends, made an unforgettable trip to visit 
			the graves and memorials of those named on the Eglwyswrw village War 
			Memorial. Two nights were spent in Arras in the Somme, France, 
			and two nights in Yprès in Belgium. A large wreath was placed on 
			each grave and a small wreath at each memorial, the wreaths were 
			made by members of the Knit and Natter club, Eglwyswrw. On 
			Monday,the first day, as well as cemeteries of interest to Eglwyswrw 
			residents and friends, the group went to Mametz Wood. Here in July 
			1916, during the battle for Mametz Wood there were over 4,000 Welsh 
			casualties. The monument, which is striking, was designed by Dave 
			Petersen of St. Clears. On Tuesday, after visiting the Arras 
			Memorial, we travelled on to Belgium, again visiting cemeteries and 
			memorials relevant to the village or to fellow travellers. Everyone 
			attended the Menin Gate service that evening. On Wednesday, there 
			was an opportunity to visit Hedd Wyn's grave, where the poem ‘Hedd 
			Wyn’ by R. Williams-Parry was read by Bronwen Davies, and Hedd Wyn’s 
			poem, ‘Rhyfel’, by Meilyr Tomos. We also stayed for some time at the 
			Welsh Memorial Park, nearby. The Memorial takes the form of a 
			‘Cromlech’, the stones having been transported from a quarry near 
			Pontypridd are topped by a red dragon created by Lee Odishow. The 
			slate in front, inscribed in Welsh, English and Flemish is the work 
			of Malcolm Gray of St Davids as is the regimental emblems on the 
			standing stones at the rear of the Memorial.  We visited the 
			German Military Cemetery near Langemark, where 44,000 German 
			soldiers lay buried. The statue of the Mourning Soldiers having been 
			moved to a new location at the huge cemetery gives a visitor a 
			mournful feeling. It was a big moment for Dave Mathias and his 
			wife Jan, accompanied by two members of the Heritage Society, as 
			they were given the honour of taking part in the official service at 
			the Menin Gate. Dave laid a wreath in memory of his grandfather, 
			Eglwyswrw-born Idris Mathias. A service takes place at Menin Gate at 
			8.0pm every night of the year with the 'Last Post' being sounded by 
			members of the Fire Service. Despite seeing thousands of war 
			graves, it was astonishing that over a hundred years on, the remains 
			of soldiers were still being found in various places by local 
			residents. There were military funerals for three soldiers in the 
			days we were in the area, two from Britain and one from Canada. It 
			is a comfort to their families that they have finally received 
			recognition and a respectable funeral. Thanks to Gaynor Jenkins 
			and Will Thomas for arranging the trip, and to Shôn (Midway) for 
			transporting us along some extremely narrow and difficult roads from 
			one cemetery to another comfortably and without hassle. A very 
			rewarding time was had by all.
  
			We will remember them.
			 
			 | 
		
		
			
			
				
				Lluniau Diwrnod 1 
				-
				allan o Arras
				-
  
				Preifat John Jones, 
				Troedfilwyr - Canada. 
				MYNWENT HEOL BUCQUOY, FICHEUX IV. C. 34. (bedd). 
				Is-Gorporal David 
				Griffith EDWARDS. COFFA 
				POZIERES Panel 42 a 43. 
			 
			
			Corporal Evan Owen DAVIES. GOFFA THIEPVAL Pier ac 
			Wyneb 5 C a 12 C. 
			Preifat 
			Joseph GRIFFITHS. ESTYNIAD 
			MYNWENT CYMUNEDOL MESNIL III. C. 10. (Bedd) 
			Cofeb 
			Gymraeg Mametz. Brwydr 
			Coedwig Mametz - Fe wnaeth yr 38ain Adran (Cymraeg) baratoi'r ffordd 
			ar gyfer rheoli'r coetir - bron i filltir o led a mwy na milltir o 
			ddyfnder - yng ngogledd Ffrainc. Roedd ei chipio yn allweddol bwysig 
			ym Mrwydr y Somme lle byddai lluoedd y Cynghreiriaid yn ymladd yn 
			erbyn yr Almaenwyr ar ffrynt 15 milltir am bum mis. Yn ystod y pum 
			diwrnod o frwydro gwaedlyd, cafodd 3,993 o filwyr o Gymru eu lladd, 
			eu colli neu eu hanafu, gan achosi i’r rhaniad fethi gweithredu am 
			bron i flwyddyn. 
			
        Pryd ganol 
          dydd yn Albert. 
        Preifat Walter 
          Charles LITTLE. 
          ESTYNIAD MYNWENT CYMUNEDOL DOINGT I. B. 1 (Bedd). 
			
        Preifat 
          Edward Griffith JAMES. 
          MYNWENT PRYDEINIG 
			'FIFTEEN RAVINE' . E.4. (Bedd) 
			
        Preifat 
          Stephen George PEREGRINE. 
          MYNWENT FFERM 
			DELSAUX, BEUGNY III. D. 20. (Bedd)  
			 | 
			
			
				
				Tour Day 
				1 Photos- 
				out of Arras -
  
				Private John JONES, 
				Canadian Infantry.  
				BUCQUOY ROAD CEMETERY, FICHEUX IV. C. 34. (grave) 
				Lance Corporal David 
				Griffith EDWARDS.  
				POZIERES MEMORIAL Panel 42 and 43. 
				Corporal Evan Owen 
				DAVIES. THIEPVAL 
				MEMORIAL Pier and Face 5 C and 12 C. 
				Private Joseph 
				GRIFFITHS.  MESNIL COMMUNAL CEMETERY 
				EXTENSION III. C. 10. (Grave). 
				Mametz Welsh 
				Memorial. The battle of Mametz Wood - The 
				38th (Welsh) Division paved the way for control of the woodland 
				- nearly a mile wide and more than a mile deep - in northern 
				France. Its capture was of key importance in the Battle of the 
				Somme where Allied forces would fight the Germans on a 15-mile 
				front for five months. During a bloody five-day battle 3,993 
				Welsh soldiers were killed, missing or injured, putting their 
				division out of action for almost a year. 
				Midday Meal at Albert.
				 
				Private Walter 
				Charles LITTLE.  DOINGT 
				COMMUNAL CEMETERY EXTENSION I. B. 1 (Grave)
  
            Private Edward Griffith JAMES. 
				FIFTEEN RAVINE BRITISH CEMETERY. E. 4. (Grave)
  
            Private Stephen George PEREGRINE. 
				DELSAUX FARM CEMETERY, BEUGNY III. D. 20. (Grave) 
			 
			 | 
		
		
			
      | 
			 
			Is-Gorporal Stephen Penry GEORGE. COFFA ARRAS Bae 
			10. 
			
			Preifat Griffith David JONES. COFFA ARRAS Bae 6. 
			Hefyd 
			John Nicholas 
			
        Preifat Oliver 
          REES. 
          COFFA LOOS Panel 77 a 78. 
			Saper 
			Simon THOMAS. COFFA LOOS Panel 4 a 5. 
			
			Is-Gorporal Thomas Walter THOMAS. COFFA LOOS 
			Panel 60. 
			
			Corporal David Thomas JONES. MYNWENT TREF BETHUNE 
			V. A. 28. (Bedd). 
			
			Preifat Griffith PHILLIPS. MYNWENT MILWROL 
			RUE-PETILLON, FLEURBAIX I. P. 82. (Bedd) 
			Pryd ganol dydd yn 
			Armentieres. 
			Saper 
			James MATTHIAS. MYNWENT MILWROL LIJSSENTHOEK 
			XXVIII. F. 4A. (Bedd) 
			
			Reifflwr Idris MATHIAS. GOFFA YPRES (MENIN GATE) 
			Panel 51 a 53
  
			 | 
			
      
		  Tour 
          Day 2 - Photos - 
          out of Arras. - 
          Lance Corporal Stephen Penry GEORGE.  
            ARRAS MEMORIAL Bay 10. 
             
            Private Griffith David JONES.  
            ARRAS MEMORIAL Bay 6. 
          Also John Nicholas 
          Private Oliver REES.  
            LOOS MEMORIAL Panel 77 and 78. 
          Sapper Simon THOMAS.  
            LOOS MEMORIAL Panel 4 and 5. 
          Lance Corporal THOMAS WALTER 
            THOMAS.  
            LOOS MEMORIAL Panel 60.  
           
          Corporal David Thomas 
				JONES.  BETHUNE TOWN 
				CEMETERY V. A. 28. (Grave) 
				Private Griffith 
				PHILLIPS.  RUE-PETILLON 
				MILITARY CEMETERY, FLEURBAIX I. P. 82. (Grave) 
				Midday Meal at Armentieres. 
				Sapper James 
				MATTHIAS.  LIJSSENTHOEK 
				MILITARY CEMETERY XXVIII. F. 4A. (Grave) 
				Rifleman Idris 
				MATHIAS.  YPRES (MENIN 
				GATE) MEMORIAL Panel 51 and 53
  
			 
			 | 
		
		
			
			
				
				Lluniau Diwrnod 3- 
				allan o Ypres. -  
				Gunner William 
				Mathias JONES. MYNWENT 
				CHATEAU WOOD POTIJZE G. 6. (Bedd). 
				Mynwent 
				Artillery Wood, Boezinge, Gwlad Belg 
				Hedd Wyn (1887–1917), enillydd y gadair farddol ar ôl 
				ei farwolaeth. (Bedd). Bu farw Gorffennaf 31, 1917 
				yn nhrydedd Frwydr Ypres - Brwydr Passchendaele. Lladdwyd ar yr 
				un diwrnod hefyd - bardd Gwyddelig E Patrick Ledwidge o Sir 
				Meath. 
			 
			Mae 
			Parc Coffa Cenedlaethol Cymru yn gofeb ryfel ger 
			Langemark Gwlad Belg, Cofeb i filwyr Cymru o'r Rhyfel Byd Cyntaf. 
			Mynwent 
			Almaeneg Langemark - Ychydig 
			i'r gogledd o bentref Langemark - Klerkenstraat. Bedd torfol i 
			44,000 o filwyr yr Almaen. Beddau 
			Preifat John 
			GRIFFITHS,  COFFA TYNE COT, 
			Panel 120 i 124. 
			Preifat John 
			Herbert LLOYD. COFFA TYNE 
			COT Panel 72 i 75. 
			Yn Ypres yn ogystal â Chofeb a 
			Seremoni Menin Gate. 
			Amgueddfa 'In 
			Flanders'. Yn y Lakenhalle - neuadd enfawr
			Grote Markt. 
			Eglwys Gadeiriol Saint 
			Martins. 
			Eglwys Goffa San Siôr 
			Dinistriwyd Ypres yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl y rhyfel 
			ailadeiladwyd y dref yn helaeth ar gost yr Almaen, ailadeiladwyd y 
			brif sgwâr, gan gynnwys y 'Cloth Hall' a neuadd y dref, gan 
			ailadeiladu mor agos at y dyluniadau gwreiddiol â phosibl. Roedd hyn 
			yn bosibl gan fod cynlluniau manwl wedi eu cofnodi ar ddiwedd y 19eg 
			ganrif. 
			 Rhy bell i ffwrdd i 
			ymweld a bedd. Preifat Bryn Gwyn WILLIAMS, 
			Bu farw dydd Mawrth, 
			Ebrill 23, 1918 - 18 oed. MYNWENT MILWROL ETAPLES 
			XXIX. L. 5A 
			
  
			 | 
			
			
				
				Tour Day 3 Photos - out of Ypres.
				-  
				Gunner William 
				Mathias JONES. POTIJZE CHATEAU WOOD CEMETERY 
				G. 6. (Grave)  
			 
			
			Artillery Wood Cemetery, Boezinge, Belgium 
			Hedd Wyn (1887–1917), posthumous winner of the 
			bardic chair. (Grave).  Died July 31, 1917 at the third 
			Battle of Ypres - The Battle of Passchendaele. Also killed on the 
			same day - E Patrick Ledwidge Irish poet from County Meath. 
			The 
			Welsh National Memorial Park 
			is a war memorial near Langemark Belgium for Welsh soldiers of 
			World War One. 
			
			Langemark German Cemetery - Just north of Langemark 
			village on Klerkenstraat. A mass grave of 44,000 German soldiers.
			Graves 
			
			Private John GRIFFITHS,TYNE COT MEMORIAL Panel 120 
			to 124. 
			Private John 
			Herbert LLOYD.  TYNE COT 
			MEMORIAL Panel 72 to 75. 
			In Ypres as well as the
			Menin Gate Memorial and Ceremony.  
			The In Flanders Museum. 
			At the huge Lakenhalle (cloth hall) Grote 
			Markt.
  Saint Martins Cathedral - 
			Sint-Maartenskathedraal. 
			St George Memorial 
			Church Ypres was destroyed during WW1. After the war the 
			town was extensively rebuilt using money paid by Germany in 
			reparations, with the main square, including the Cloth Hall and town 
			hall, being rebuilt as close to the original designs as possible. 
			Due to detailed plans being recorded in the late 19th century. 
			Too far away to visit. 
			Private Bryn Gwyn WILLIAMS,  
			Died Tuesday, April 23, 1918 – 
			Age 18. ETAPLES MILITARY CEMETERY XXIX. 
			L. 5A.
  
			 |