TRYCHINEB 
                      AR FRYNIAU PRESELI.  
                      Bu farw dau aelod o ysgol Sul, Seion ar ddydd Sul Gorffennaf 
                      30.1944.  | 
                
              
              Y stori fel y nodwyd 
                yn y blynyddoedd dilynol.
                Ar ddydd Sul y drychineb, bwriedir i Milton Jones 16 oed a Donald 
                Pritchard 14 oed fynd i ysgol Sul yn nghapel Seion, Crymych.
                Roedd cofrestr yr ysgol Sul yng ngofal Milton, ond roedd wedi 
                gofyn i ddisgybl arall yn yr ysgol Sul, Vince Davies, ofalu am 
                y gofrestr, fel gallai fynd gyda Donald i gerdded ar y bryniau.
                Mae'n debyg y byddai ei frawd Roy wedi mynd gyda nhw, ond roedd 
                wedi trefnu mynd i rywle arall yn ddiweddarach yn y dydd.
                Roedd gan Milton ddiddordeb ym mhob peth mecanyddol. Mae'n rhaid 
                iddynt fod wedi trin neu symud ordnans milwrol, pan ffrwydrodd 
                a bu y ddau farw.
                Roedd hwn yn gyfnod byr ar ôl i'r milwyr a fu'n hyfforddi 
                ar fryniau'r Preseli adael i ymladd yn Ewrop.
                Roedd Milton yn fab i Oliver James Jones a Margaret Ann Jones, 
                Cefn Mawr, Crymych.
                Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Aberteifi ac wedi gwneud yn 
                dda yn yr arholiadau, derbyniodd y teulu y canlyniadau ym mis 
                Awst. 1944, ychydig amser ar ôl y ddamwain.
                Roedd Donald a'i frawd a'i chwiorydd gyda'u mam wedi dod i'r ardal 
                o Abertawe yn faciwîs ryw dair blynedd cynt, symud o'r perygl 
                a achoswyd gan fomwyr o’r Almaen. 
                Mynychodd y plant ysgol Ramadeg Aberteifi. Roedd eu tad oherwydd 
                ei waith wedi aros gydag aelodau o'r teulu ger Llanelli.
                Adeg y drychineb roedd Donald wedi gadael yr ysgol i weithio gyda 
                cwmni W.H.James, ‘Ironmonger’ yng Nghrymych.
                Roedd Gorffennaf 30ain hefyd yn ddiwrnod pen-blwydd mam Donald, 
                roeddent wedi paratoi te arbennig i ddathlu pan ddaeth y newyddion 
                am y ddamwain.
                Cynhaliwyd Gwasanaeth Angladd y ddau yn Seion, Crymych ddydd Iau, 
                Awst 3ydd ac a’u claddwyd ym Mynwent Seion.
                ------------------------
              Tua'r 
                un pryd a dechreuwyd  prosiect ‘Cofeb 
                Rhyfel’, dechreuwyd brosiect arall i gofio'r ddau 
                fachgen a laddwyd drwy ddamwain ar fryniau'r Preseli.
                Fe wnaethon ymchwilio hanes y ddamwain a bu trafod gyda aelodau 
                Seion a oedd yn gefnogol iawn i’r prosiect. Bu Rheinallt 
                yn trafod gydag athrawon ysgol Sul Seion er mwyn cynnwys pobl 
                ifanc yr ardal yn y prosiect i annog eu diddordeb mewn hanes lleol. 
                Trefnwyd taith i fynd â phlant a phobl ifanc yr ysgol Sul 
                i ymweld ag amgueddfa ‘Tin Shed’ yn Nhalacharn, amgueddfa 
                sy'n arbenigo mewn cyfnod yr Ail Ryfel Byd, ac yna i fwynhau gweddill 
                y diwrnod mewn atyniad lleol arall.
                Fe wnaethom gysylltu ag aelodau Capel Seion gyda'r syniad o gael 
                plac Coffa a’i osod ar wal fewnol y capel, eto roeddent 
                yn gytyn a chefnogol.
                Gan ein bod yn fodlon iawn a gwaith Malcolm Gray ar y Gofeb Rhyfel, 
                gofynnom iddo gynhyrchu plac, yn debyg i blac oedd eisoes ar un 
                ochr i'r pulpud yn Seion.
                Ar 20 Mehefin 2014 gosododd Malcolm y plac ar y wal.
                Trefnwyd y gwasanaeth dadorchuddio ar gyfer Awst 31ain, gyda'r 
                plant yr ysgol Sul yn cymryd rhan flaenllaw.
                Mynychodd llawer o berthynasai y bechgyn y gwasanaeth; roedd rhai 
                wedi teithio pellter hir i fod yno. Wedi’r gwasanaeth roedd 
                te yn y festri, lle y bu pobl yn sgwrsio a chyfnewid yr hyn gallent 
                ddwyn i gof o’r digwyddiad drasig saith deg mlynedd gynt.