Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro

Eglwyswrw and District Heritage Society

Gartref
Cyfarfodydd a Gweithgareddau 2024.
Home

Nodiadau o'r Cofnodion

Ionawr 2024.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd yn Yr Hen Ysgol nos Lun, Ionawr 8fed am 7.30pm.
Roedd yna nifer dda yn y cyfarfod. Ar ôl gair o groeso gan ein cadeirydd Glynwen Bishop, dangoswyd ffilm, 50 munud, sef casgliad o ffilmiau sine a gymerwyd gan Harley Morgan yn y 1950au a’r 1960au. Ffermio, Digwyddiadau CFfI, Pentref a'i Gymeriadau a Phriodasau.
Cipolwg ar y gorffennol, a ffordd o fyw arafach. Ar ôl paned a bisgedi arferol a’n gwesteion wedi gadael, cynhaliwyd cyfarfod busnes byr o dan gadeiryddiaeth Glynwen.
Bydd y cyfarfod nesaf ar Chwefror 12fed – 7.30pm yn Yr Hen Ysgol.
Ein siaradwraig gwadd fydd Heather Tomos.
Teitl ei chyflwyniad fydd ‘Tribiwnlysoedd Milwrol y Rhyfel Byd Cyntaf’.

Chwefror, 2024.
Cynhaliwyd ein cyfarfod mis Chwefror ar nos Lun y 12fed, ac roedd nifer dda yn bresennol. Agorodd ein cadeirydd y cyfarfod gydag ychydig eiriau o groeso. Y siaradwraig gwadd oedd Heather Tomos a theitl ei chyflwyniad oedd Tribiwnlysoedd Milwrol y Rhyfel Byd Cyntaf. Dechreuodd Heather drwy roi manylion am sut ddechreuodd y rhyfel, llofruddiaeth Archddug Awstria, Franz Ferdinand a'i wraig ar Fehefin 28 1914, ac ar Orffennaf 28 cyhoeddodd Awstria-Hwngari ryfel ar Serbia. Cyhoeddodd Prydain ryfel yn erbyn yr Almaen ar Awst 4ydd, 1914. Dim ond cyfran fechan o'r hyn oedd gan y gelyn oedd gan fyddin Prydain ar y pryd. Roedd angen mawr am wirfoddolwyr i hybu niferoedd y fyddin. Rhuthrodd dynion ieuainc i ymuno, llawer i ddianc rhag tlodi a chaledi oedd yn gyffredin y pryd hwnnw. Ym 1914 daeth Horatio Herbert Kitchener yn Ysgrifennydd Gwladol y Ryfel. Roedd cyflwyniad Heather yn dangos ar y sgrin fawr nifer o’r posteri yn annog dynion ifanc i ymuno, gyda sloganau’r cyfnod, “Your Country Needs You” ac ati. Dywedodd fod arweinwyr crefyddol ac aelodau blaenllaw eraill o’r gymdeithas hefyd yn annog dynion ifanc i fynd a gwneud eu rhan dros eu gwlad.
Ymrestrodd mwy na miliwn o ddynion, ond erbyn diwedd 1915 wrth i’r rhyfel ehangu, nid oedd hyn yn ddigon i gymryd lle’r rhai a laddwyd ar faes y gad. Penderfynodd y Llywodraeth ddod â chonsgripsiwn i mewn. Roedd pob dyn sengl rhwng 18 a 41 oed yn agored i gael eu galw i wasanaeth milwrol, oni bai eu bod yn weddw gyda phlant, yn hwyrach, roedd dynion priod hefyd yn cael eu galw i wasanaethu. Ond roedd eithriadau, nid oedd dynion a oedd yn gwneud gwaith o bwysigrwydd cenedlaethol yn cael eu galw i’r fyddin. Sefydlwyd tribiwnlysoedd i benderfynu a oedd rheswm digonol i ganiatáu eithriad i'r rhai a oedd yn gwneud y cais. Effeithiwyd hyn yn ddrwg ar deuluoedd ffermio. Byddai fferm deuluol gyda dau neu dri mab yn gweithio ar y fferm yn gweld un neu efallai ddau o’r meibion yn cael eu galw i wasanaethu yn y fyddin, fel y penderfynwyd gan y panel tribiwnlys, a oedd yn cynnwys aelodau blaenllaw o’r gymdeithas gyda rhywun o’r fyddin neu o gefndir milwrol yn cynrychioli y swyddfa rhyfel. Roedd gan cynrychiolydd y swyddfa ryfel ddim cydymdeimlad o gwbl a'r ymgeiswyr. Roedd y tribiwnlysoedd yn faterion cyflym gyda ddim ond tua phum munud i bob achos. Cynhaliwyd y tribiwnlysoedd yn Saesneg, ac roedd hynny'n ei gwneud hi'n anoddach i'r rhai o Gymru wledig ar y pryd gan mai Cymraeg oedd eu mamiaith
Diolchodd Mike i Heather am ei chyflwyniad diddorol a bu rhai cwestiynau o’r gynulleidfa a arweiniodd at drafodaethau pellach.
Daeth y cyfarfod i ben gyda’r te a’r bisgedi arferol a pheth amser i gymdeithasu. Bydd y cyfarfod nesaf ar Fawrth 11eg yn Yr Hen Ysgol. Y siaradwr gwadd fydd Gerwyn Morgan a fydd yn rhoi blas i ni o’i lyfr diweddaraf “The Faded Glory” The Tivyside Squires and their Mansions.

Mawrth 2024.
Cynhaliwyd cyfarfod y Gymdeithas Treftadaeth yn Yr Hen Ysgol nos Lun Mawrth 11eg.
Cyn i’n Cadeirydd gyflwyno’r siaradwr gwadd, gofynnodd am funud o dawelwch i gofio am John Evans, Castle Lodge, aelod cefnogol o’r Gymdeithas ers blynyddoedd lawer.
Ein siaradwr gwadd oedd Gerwyn Morgan sydd newydd gyhoeddi ei rifyn diweddaraf o’i lyfr “Faded Glory, The Tivy Side Squires and their Mansion”.
Roedd rhai o'r lluniau a dafluniwyd ar y sgrin yn dangos ysblander mewnol y plastai, er bod llawer wedi goroesi, yn anffodus mae rhai fel Bronwydd wedi'u dymchwel. Roedd y teulu Lloyd o Fronwydd a oedd yn berchen llawer o dir yn ein hardal yn uchel eu parch gan eu tenantiaid a’u cymdogion, gwnaethant lawer i gefnogi digwyddiadau lleol megis eisteddfodau a gwnaethant gyfraniad hael i eglwysi a chapeli lleol, Mae Capel y Drindod, Aberbanc a Chapel Annibynwyr Bryngwenith. wedi eu hadeiladu ar dir Bronwydd.
Nid oedd eraill bob amser yn cael eu parchu cystal â'r Lloyds.
Un arall a oedd gan Gerwyn air da amdano oedd Thomas Colby o Bantyderi, roedd Twm Colby, fel yr adnabyddid ef yn lleol, a chafodd ei addysg yn Bonn yn yr Almaen yn byw bywyd syml, ei hoff bryd o fwyd oedd ‘cawl’, yng anghyffredin, roedd y teulu yn bwyta eu prydau ar yr un bwrdd â’r gweision a gweithwyr fferm. Er mai dillad llafurwr oedd gwisg dyddiol Twm, ni esgeulusodd ei ddyletswyddau gyhoeddus, roedd yn Ynad Heddwch, yn Gynghorydd ac yn gwasanaethu ar Fwrdd Gwarcheidwaid Aberteifi. Bu farw yn 1912 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanfair Nantgwyn.
Disgrifiodd Gerwyn lawer o’r hanner cant o blastai, eu stadau a’u perchnogion a oedd yn cael sylw yn ei lyfr, rhai ohonynt yn fwy na 10,000 erwau.
Diolchodd Tricia Fox i Gerwyn am ei gyflwyniad a fwynhawyd gan gynulleidfa a oedd yn fwy nag arfer. Daeth y cyfarfod i ben gyda’r amser arferol i gymdeithasu gyda phaned o de a bisgedi.
Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar Ebrill 8fed, cyfarfod busnes a fydd yn dechrau gyda ffilm fer o ddiddordeb lleol.




Swyddogion ar gyfer 2024.

Cadeirydd - Glynwen Bishop.

Is-gadeirydd - Diana Vaughan Thomas.

Ysgrifennydd - Will Thomas.

Trysorydd - Brenda James.

Archwilydd - Adrian Charlton.

Bydd ein cyfarfodydd busnes yn dechrau drwy ddangos ffilm fer o ddiddordeb lleol.

Diolch aelodau am eich ffyddlondeb ac edrychwn ymlaen i’ch cwmni eto yn ein cyfarfod nesaf.
Gartref
 
Home