Nodiadau o'r 
          Cofnodion
        Ionawr 2023
          Cynhaliwyd ein cyfarfod mis Ionawr yn Yr Hen Ysgol ar ail nos Lun y 
          mis yn ôl yr arfer. Ein siaradwraig wadd oedd Heather Tomos a 
          theitl ei chyflwyniad oedd “Pam oedd plant lleol yn absennol o’r 
          ysgol yn oes Fictoria”. Disgrifiodd Heather addysg yn y 1800au 
          a’r rhesymau pam na allai llawer o blant fanteisio ar yr addysg 
          brin oedd ar gael ar y pryd. Nid oedd rhai teuluoedd yn gallu fforddio 
          anfon eu plant i'r ysgol, a roedd rhai plant yn cael eu cadw adref i 
          weithio ar ffermydd, yn enwedig adeg y cynhaeaf ac roedd llawer o resymau 
          eraill am eu habsenoldeb.
          Deddf Addysg Elfennol 1870 oedd y gyntaf o sawl deddf seneddol a basiwyd 
          rhwng 1870 a 1893 i greu addysg orfodol yng Nghymru a Lloegr i blant 
          rhwng 5 a 13 oed. Fe'i hadwaenid fel ‘The Forster Act’ ar 
          ôl ei noddwr William Forster.
          Hyd yn oed wedyn roedd dirwyo rhieni teuluoedd mawr am absenoliaeth 
          eu plant yn gwneud hi'n llai tebygol iddynt fforddio addysgu eu plant. 
          Cafodd Heather lawer cwestiwn gan yr aelodau, a braf oedd gweld bachgen 
          o oedran ysgol yn gofyn cwestiynau perthnasol a synhwyrol, a diolch 
          i Heather am yr esboniadau trylwyr.
        Cynhelir cyfarfod 
          busnes ar yr ail nos Lun o Chwefror, a fydd yn dechrau drwy ddangos 
          ffilm fer o ddiddordeb lleol. Siaradwr ar gyfer ein cyfarfod ym mis 
          Mawrth fydd Mark Cole.
        Chwefror, 2023
          Cynhaliwyd ein cyfarfod busnes yn Yr Hen Ysgol ar Chwefror 13, yr ail 
          nos Lun o’r mis fel yr arfer. Dechreuodd ein cyfarfod trwy ddangos 
          ffilm sine a oedd wedi'i throsglwyddo i ffilm digidol yn dangos digwyddiadau 
          lleol yn 1979 a'r 1980au, gan gynnwys clipiau o’r ‘Taith 
          Gerdded Dydd Calan’ gyntaf ac achlysuron pentrefol eraill.
          Yna gydag Glynwen Bishop yn y gadair cynhaliwyd cyfarfod busnes. Derbyniwyd 
          gohebiaeth amrywiol ers ein cyfarfod busnes diwethaf, derbyniwyd adroddiad 
          wrth William Morgan am “Rasys Ceffylau Lleol” yn disgrifio’r 
          rasio ceffylau yn y 19eg ganrif a gynhaliwyd yn ardal Boncath, ymhlith 
          y lleoedd a enwyd oedd Pentre; Cilast; a Blaenmigan, Boncath, ni wyddai 
          neb o'n haelodau am yr olaf.
          Roedd cais am wybodaeth am “Maenor Eglwyswrw”. Mike Bishop 
          wnaeth ddelio a’r cais, ac un arall o New Jersey yn yr Unol Daleithiau 
          yn ceisio gwybodaeth lleol, gyda Glynwen yn ymateb i hwn fel yr arfer.
          Cytunwyd i roi llyfrau i Gartrefi Gofal yr ardal a bydd y rhain yn cael 
          eu cyflwyno gan Brenda; Dave; Glynwen ac Eileen.
          Adroddwyd bod gan ein tudalen Facebook 410 o aelodau ar hyn o bryd ac 
          mae'n parhau i gael derbyniad da.
          Bydd ein diwrnod allan blynyddol eleni fel yn y gorffennol yn cael ei 
          drefnu gan Brenda, gobeithiwn ymweld â Phantycelyn, cartref William 
          Williams yr emynydd, yn ogystal â rhyw atyniad arall gerllaw.
          Coroniad Siarl III ar ddydd Sadwrn, 6 Mai 2023, yn lle’r ‘Bore 
          Coffi’ arferol ar y dydd Sadwrn, cynhelir ‘Te Prynhawn’ 
          yn Yr Hen Ysgol y diwrnod canlynol (Sul) i ddathlu. Gofynnir i aelodau 
          ddod ag eitemau cofiadwy y coroni yn y gorffennol neu unrhyw eitem addas 
          arall i'w harddangos.Oherwydd y tywydd ym mis Rhagfyr, 
          fe wnaethom ganslo ein dathliad Nadolig, gan gofio hyn awgrymwyd y dylem 
          fynd am bryd pan fydd ein grwp yn ymweld â Chastell Aberteifi 
          ym mis Gorffennaf.
          O dan ‘unrhyw fusnes arall’ buom yn trafod codiad taliadau 
          llogi y neuadd ‘Yr Hen Ysgol’; mae'r cynnydd anochel hyn 
          oherwydd pris ynni.
        Siaradwr ar gyfer 
          ein cyfarfod ym mis Mawrth fydd Mark Cole.
        Mawrth 2023
          Ein siaradwr ar gyfer ein cyfarfod ym mis Mawrth oedd Mark Cole, a theitl 
          ei gyflwyniad oedd - ‘Teulu Thomas, Ty Rhos, Rhos Glynmaen’ 
          ‘Teulu Eglwyswrw: i Khartoum a’r Kremlin’
          Rhoddodd Mark hanes manwl y teulu o 1823 hyd y presennol. Soniodd am 
          yr ymdrech a wnaed gan Dafydd ac Elizabeth Thomas (Deio a Leisa) Ty 
          Rhos, plwyf Eglwyswen i addysgu eu plant, buont yn cynnal Ysgol Sul 
          yn Nhy Rhos i blant lleol. Bu Dafydd yn ymwneud ag adeiladu capel y 
          Bedyddwyr, Bethabara, a agorodd yn 1826. Yn 1849, symudodd y teulu i 
          Pantygarn, Eglwyswrw, fferm 33 erw. Saer maen oedd Dafydd, a dysgodd 
          ei feibion y grefft yn ifanc. Rhoddodd Mark hanes y plant, yr enwocaf 
          efallai oedd Benjamin Thomas ‘Myfyr Emlyn’. gweinidog y 
          Bedyddwyr, bardd, darlithydd, ac awdur. Soniodd am yrfaoedd holl blant 
          Ty Rhos a rhai o’u disgynyddion, roedd yna rhagor o weinidogion 
          y Bedyddwyr yn ogystal â beirdd, actorion, a chyfarwyddwr ffilm. 
          Gwnaeth y teulu eu marc mewn sawl maes, o rhos Glynmaen ac Eglwyswrw 
          i lefydd pell ar draws y byd, a dyna pam y ceir cyfeiriad yn y teitl 
          ‘To Khartoum & the Kremlin’. Talodd deyrnged i Ethel 
          James, disgynnydd, awdur y llyfryn a gynhyrchwyd yn 1976 i ddathlu pen-blwydd 
          Bethabara yn 150 oed, gwnaeth cywirdeb y wybodaeth ei rhyfeddu, am nad 
          oedd ganddi dechnoleg fel sydd gennym heddiw na chofnodion parod ar 
          gael i'w helpu a’r gwaith ymchwil.
          Cafodd llawer o ddisgynyddion Dafydd ac Elizabeth eu lladd neu eu anafu 
          yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
          Priododd merch ieuengaf Dafydd ac Elizabeth â Stephen Lewis, Carnhuan, 
          ac roedd y cwpl yn byw ym Mhantygarn, a magwyd eu plant yno.
          Mae Mark wedi bod yn ymchwilio hanes ei deulu ers blynyddoedd, a chawsom 
          y fraint o gael blas o’r hyn y mae wedi’i ddatgelu, ac fe 
          wnaeth y gynulleidfa fawr ddangos eu gwerthfawrogiad. Wedyn, fe wnaethom 
          fwynhau peth amser yn cymdeithasu gyda phaned o de. 
        Fydd ein cyfarfod 
          nesaf ar Ebrill 17eg wythnos yn hwyrach nag arfer. Cyfarfod busnes a 
          fydd yn dechrau trwy ddangos ffilm fer.
        Ebrill 2023
          Gan fod yr ail ddydd Llun o’r mis yn ddydd Llun y Pasg, cynhaliwyd 
          cyfarfod mis Ebrill wythnos yn hwyrach nag yr arfer. Braf oedd gweld 
          cymaint yn Yr Hen Ysgol gan fod cyfarfodydd busnes fel arfer yn faterion 
          tawel. Dechreuodd y noson drwy ddangos ffilm fer o arwerthiant fferm 
          Nantyrhelyngen Fawr a gafodd ei ffilmio’n fedrus gan y diweddar 
          Mr Lance Cole. Cynhaliwyd yr arwerthiant ar 26ain o Fehefin 1992. Er 
          y tristwch, braf oedd gweld cymaint o wynebau cyfarwydd nad ydynt gyda 
          ni bellach. Bydd yr ail ran a rhannau eraill o'r ffilm yn cael eu dangos 
          mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Dilynwyd hyn gan gyfarfod busnes dan 
          gadeiryddiaeth Glynwen Bishop. Roedd gohebiaeth, un o America gan rywun 
          fydd yn ymweld â'r ardal yn ddiweddarach eleni. Treuliwyd peth 
          amser yn trafod ein diwrnod allan sy'n cael ei drefnu gan Brenda fel 
          yn y blynyddoedd gynt. Ar ddydd Sadwrn, Mai 20fed am 9.00 y bore byddwn 
          yn gadael Eglwyswrw, ac yn teithio i Llanymddyfri, ar ôl arhosiad 
          byr, byddwn yn teithio’r bedair milltir i fferm Pantycelyn, cartref 
          William Williams yr emynydd, awdur, bardd ac arweinydd crefyddol enwog. 
          1717 – 1791. Oddi yno dychwelwn i Llanymddyfri am luniaeth cyn 
          ymweld ag Eglwys Llanfair ar y Bryn a bedd William Williams. Mae Brenda 
          wedi trefnu tywyswyr ar gyfer yr eglwys a’r amgueddfa lle byddwn 
          yn ymweld yn hwyrach. Ar y ffordd adref byddwn yn aros Nantyffin, Llandisilio 
          am bryd o fwyd.
          Os oes gennych ddiddordeb, ymunwch â ni, cysylltwch â Brenda 
          ar 01239 841710. Pawb i drefnu eu cludiant eu hunain. Byddwn yn rhannu 
          ceir yr un fath â'r llynedd, gyda theithwyr yn cyfrannu at gost 
          tanwydd. I gloi y noson mwynhawyd paned arferol o de a sgwrs.
        Bydd ein cyfarfod 
          nesaf ar Fai 8fed a’n siaradwraig fydd Eirlys Thomas, ei chyflwyniad 
          fydd ‘Araf Gerdded Llwybr Arfordir Cymru’ a gwblhawyd ganddi 
          rai blynyddoedd yn ôl.
        Mai 2023
          Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a’r Fro.
          Daeth nifer dda i’n cyfarfod yn Yr Hen Ysgol nos Lun, Mai 8fed, 
          ein siaradwraig gwadd oedd Eirlys Thomas, ei chyflwyniad oedd ‘Araf 
          Gerdded Llwybr Arfordir Cymru’.
          Cwblhaodd Eirlys a’i ffrind Lucy O’Donnell y daith 870 milltir 
          ychydig flynyddoedd yn ôl. Disgrifiodd Eirlys eu profiadau ar 
          hyd y ffordd, o’r diwydiannol de Cymru, i’r ardaloedd mwy 
          gwledig y gorllewin a’r gogledd, gyda llawer iawn o luniau wedi'u 
          taflunio ar y sgrin fawr a darlleniadau o'r llyfr a gyhoeddwyd ganddynt 
          yn ddiweddarach. Roedd ddim rhaid i ni adael ein seddau i fwynhau’r 
          golygfeydd bendigedig a chlywed am y nifer o lefydd diddorol y buont 
          yn eu hymweld ar hyd y daith.
          Ar yr 20fed o Fai, teithiodd aelodau y Gymdeithas i Llanymddyfri, ymwelsom 
          â Phantycelyn, cartref yr emynydd William Williams yr hwn a anwyd 
          yn 1717 yn Cefn Coed, Llanfair-ar-y-bryn, sir Gaerfyrddin, ac a fu farw 
          Ionawr 11,1791, ym Mhantycelyn. Ysgrifennodd mwy na 900 o emynau a llawer 
          o lyfrau, un emyn â chysylltiad lleol yw “Dros y bryniau 
          tywyll niwliog” a’i ysgrifennwyd (yn ôl y sôn) 
          wrth edrych ar Garn Ingli yn ystod ymweliad â Maenordy Llwyngwair, 
          Trefdraeth, cartref y teulu Bowen, yn 1772.
          Cawsom groeso cynnes gan disgynnydd i’r emynydd, Mr Cecil Williams 
          a’i wraig.
          Yna am luniaeth i dref Llanymddyfri a oedd yn barod i groesawi Eisteddfod 
          yr Urdd cyn ddiwedd y mis. Yn y prynhawn buom yn ymweld â Llanfair 
          ar y bryn a bedd William Williams, a chawsom hanes yr Eglwys gan ein 
          tywysydd, Mr Dai Gealy, warden yr Eglwys.
          Ymlaen wedyn i'r Amgueddfa a'r gofeb newydd i William Williams, o waith 
          Gideon Petersen, ac yno i’n croesawu roedd Maer Llanymddyfri, 
          Mrs Sarah Georgina Jones a’i chymar Mr Dan Jones. Cyn ymadael, 
          wnaeth Mrs Jones ein harwain o amgylch y dref i ddangos leoedd o bwysigrwydd 
          hanesyddol.
          Ar ein taith adref mwynhawyd pryd o fwyd yn Nantyffin, Llandisilio, 
          lle cafwyd cwmni aelodau eraill na fedrai wneud y daith i Llanymddyfri.
          Llongyfarchiadau a diolch i Brenda James ein trysorydd am drefni diwrnod 
          allan llwyddiannus arall (Ein Trip), fel yn y blynyddoedd gynt, gyda 
          phopeth wedi'i gynllunio yn berffaith. 
        Yn ein cyfarfod ar 
          Fehefin 12fed, yn Yr Hen Ysgol am 7.30yh
          Byddwn yn dangos ffilm yn cynnwys chyfweliad gyda chymeriad diddorol 
          y cawsom y fraint o'i gyfarfod ar ein diwrnod allan yn Llanymddyfri 
          ar ddydd Sadwrn, Mai 20fed.
          Ar ôl y ffilm a fydd yn para tua awr, byddwn yn cynnal cyfarfod 
          busnes byr a chael paned arferol o de a sgwrs.
        Mehefin 2023
          Cyfarfu Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw ar Fehefin 12fed, yn Yr Hen 
          Ysgol.
          Dangoswyd ffilm yn cynnwys cyfweliad gyda chymeriad diddorol y cawsom 
          y fraint o’i gyfarfod ar ein diwrnod allan yn Llanymddyfri ar 
          ddydd Sadwrn Mai 20fed. Mr Gealy oedd ein tywysydd yn eglwys Llanfair 
          ar y Bryn. Ar ôl yr ymweliad fe benderfynom ddarganfod mwy am 
          y gwr oedrannus hwn oedd wedi gadael argraff bositif arnom, roeddem 
          hefyd yn teimlo drosto pan na allai agor yr organ gan fod gennym organyddion 
          dawnus yn ein grwp. Am ryw reswm roedd yr organ dan glo, a doedd ganddo 
          ddim yr allwedd. Roedd cerddoriaeth yn bwysig iddo.
          Buom yn ffodus i ddarganfod ar y we, ffilm o gyfweliad gyda David (Dai) 
          Gealy a recordiwyd ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd Dai wedi bod 
          yn ddisgybl ac yn feistr yng ngholeg Llanymddyfri, felly roedd wedi 
          gwario rhan fwyaf o’i oes yn yr ysgol. Aeth i goleg Llanymddyfri 
          am y tro cyntaf yn blentyn yn y 1940au a phan ofynnwyd iddo sut roedd 
          yn teimlo pan gyrhaeddodd, “Roeddwn yn teimlo fel fy mod yn mynd 
          i mewn i garchar” oedd yr ateb, disgrifiodd ei deimladau wrth 
          gyrraedd yr ysgol breswyl o’r pentref bychan Lechyfedach, roedd 
          yn cofio n iawn gael ei alw'n ‘yokel’ gan eraill oherwydd 
          ei acen Gymreig, roedd yn cyfri ei hun yn ffodus ei fod wedi gallu gwneud 
          dau neu dri o ffrind agos yn fuan ar ôl cyrraedd. Roedd y ffilm 
          yn rhy ddiddorol i beidio a’i rhannu, felly trodd ein cyfarfod 
          busnes yn ‘noson ffilm’ ac yna cyfarfod busnes byr i ddilyn. 
          Gyda Glynwen yn y gadair, aethom drwy’r eitemau a restrir ar ein 
          agenda, gwnaethom benderfyniadau a thrafod sawl pwnc, a’r pwysicaf 
          oedd newid cynllun ein cyfarfod ym mis Gorffennaf. Roeddem wedi bwriadu 
          ymweld â Chastell Aberteifi, ond oherwydd cymhlethdodau, penderfynom 
          ymweld ag Eglwys Nanhyfer. Byddwn yn cyfarfod ger yr eglwys am 6.30yh, 
          ein tywysydd fydd Mr Steve Watkins, wedyn byddwn yn mynd i’r Salutation 
          Inn am bryd o fwyd.
          Daeth ein cyfarfod i ben gyda phaned a sgwrs, diwedd dymunol i gyfarfod 
          a fynychwyd yn dda.
          
        Cyfarfod nesaf ger 
          Eglwys Nanhyfer 6.30yh, Gorffennaf 10fed.
        Gorffennaf 2023
          Ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 8fed ar ran Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw, 
          roedd Mike ac a Glynwen Bishop unwaith eto yn codi arian gyda bwrdd 
          llyfrau ail law yn sioe flynyddol CADAMM, a gynhelir ar Fferm Ceffylau 
          Gwedd. Fel yn y blynyddoedd gynt, roedd yr arian a godwyd yn cael ei 
          roi i elusen lleol. Y derbynnydd eleni o'r £60 a godwyd oedd ‘Ymatebwyr 
          Cyntaf’, Gorsaf Dân Crymych sy’n darparu gwasanaeth 
          amhrisiadwy i’n hardal.
          Ar y 10fed, o Orffennaf, aeth trideg tri o aelodau a ffrindiau Cymdeithas 
          Treftadaeth Eglwyswrw i ymweld a Eglwys Sant Brynach, Nanhyfer. Dechreuodd 
          ein tywysydd Mr Steve Watkins y daith dywys ger y ‘Bleeding Yew 
          Tree’ sy’n gannoedd o flynyddoedd oed. Disgrifiodd Mr Watkins 
          y ‘Carreg Vitalanus’ a leolir ger mynedfa’r eglwys 
          gyda’i harysgrif Ogam a Lladin o’r 5ed neu’r 6ed ganrif 
          a’r ‘Groes Geltaidd’ enwog o’r 10fed ganrif.
          Gyda phawb yn eistedd y tu fewn, siaradodd Mr Watkins am hanes yr eglwys 
          a sefydlwyd gan Sant Brynach yn y chweched ganrif, er ei fod yn credu 
          bod pobl yn addoli yno lawer ynghynt.
          Clywsom am hanes yr eglwys trwy yr oesoedd hyd y presennol. Cyn gadael 
          dangosodd pwyntiau o ddiddordeb i ni, fel y siliau ffenestri sydd â 
          cherfiadau Celtaidd cynnar a oedd ar un adeg mewn man arall yn yr eglwys. 
          Bellach mae gan y clochdy a adnewyddwyd yn ddiweddar 10 cloch. Wrth 
          adael yr eglwys treuliwyd peth amser yn crwydro’r fynwent i sain 
          hyfryd, wrth i’r canwyr clychau ddechrau eu hymarfer. Ar y ffordd 
          adref, mwynhaodd bawb bryd o fwyd yn y Salutation Inn, Felindre. Ein 
          Cadeirydd, Glynwen Bishop ar ran pawb wnaeth y diolchiadau yn yr Eglwys 
          ac am y croeso a’r gwasanaeth yn Nhafarn y Salutation. Ein diolch 
          fel bob amser i’n Trysorydd Brenda James a wnaeth yr holl drefnu 
          yn ei dull effeithlon arferol.
        Dim cyfarfod ym 
          mis Awst.
        Medi 
          2023 
          Ar Fedi 11eg, cynhaliwyd ein cyfarfod busnes yn Yr Hen Ysgol. Roedd 
          nifer dda yn bresennol. Fel gyda phob cyfarfod busnes yn ddiweddar, 
          dechreuwyd drwy ddangos ffilm fer, a’r ffilm a ddangoswyd oedd 
          yr 2il ran o Arwerthiant Fferm Nantyrhelygen Fawr a gynhaliwyd ym Mehefin 
          1992 a’i ffilmiwyd gan y diweddar Mr Lance Cole. Fe wnaethom hefyd 
          ddangos ar y sgrin fawr, lun a gawsom yn ddiweddar o Bontyglasier, Eglwyswen 
          a dynnwyd yn ôl pob tebyg tua 1900, cyn adeiladu’r bont 
          tua 1905, fel bob amser, rydym yn falch iawn o gael lluniau o’r 
          fath. Wedyn, cyfarfod busnes dan gadeiryddiaeth Glynwen Bishop.
          Croesawodd Glynwen yr aelodau a diolchodd i Enid am ganiatâd i 
          ddangos ffilm a wnaed gan ei diweddar wr.
          Yn dilyn yr agenda, cyrhaeddom eitem 7 sef adolygiad o’n hymweliad 
          ag eglwys Nanhyfer ym mis Gorffennaf. Disgrifiodd Glynwen yr ymweliad 
          fel noson lwyddiannus a phleserus, diolchodd i bawb a fynychodd a diolchodd 
          i Brenda yn arbennig am drefnu phopeth, a chymeradwywyd hyn gan yr aelodau.
          Buom yn trafod ein rhaglen ar gyfer 2024 a hefyd dathliad y Nadolig 
          eleni i’w gynnal ddechrau Rhagfyr fel yr awgrymwyd. Bydd Brenda 
          yn gwneud ymholiadau a chawn wybod mwy yn ein cyfarfod nesaf.
          Trafodwyd y gost o redeg ein gwefan a phenderfynwyd y dylai barhau, 
          oherwydd, dros y blynyddoedd rydym wedi gallu helpu llawer o bobl o 
          lefydd pell ac wedi dysgu llawer wrth wneud hynny.
          Cyfarfod nesaf. Hydref 9, 2023, 7.30pm yn Yr Hen Ysgol.
          Cyfle i bori llyfrau lloffion Mrs Vittle gyda John ‘Cwmbetws’ 
          Davies.
        
        Hydref 2023
          Cynhaliwyd cyfarfod gwahanol nos Lun, Hydref 9fed yn Yr Hen Ysgol. 
          Daeth John Cwmbetws Davies â llyfrau lloffion i ni i’w gweld, 
          sef gwaith y diweddar Mrs Olive Vittle, Brohedydd.
          Roedd mwy na 60 mlynedd o hanes lleol wedi'i gofnodi mewn dwsinau o 
          lyfrau lloffion. Pleser pur oedd gallu darllen am ddigwyddiadau’r 
          dyddiau a fu, priodasau, angladdau, a phopeth o bwys a oedd yn newyddion 
          dros y blynyddoedd, er y byddai’n cymryd amser hir iawn i’w 
          darllen i gyd. Rydym yn hynod ddiolchgar i Dilwyn ac Ann Vittle am ganiatáu 
          inni weld y trysorau hyn yng ngofal John. Gyda’r byrddau wedi 
          eu gosod allan gyda llyfrau lloffion a phawb yn eistedd, croesawodd 
          ein cadeirydd Glynwen bawb a gwahoddwyd John i agor y cyfarfod gydag 
          ychydig eiriau. Fe ddisgrifiodd Mrs Vittle fel person oedd â diddordeb 
          mewn pobl, cymydog caredig a hael y cafodd y fraint o’i hadnabod 
          a threulio amser yn ei chwmni. Yna amlinellodd John rai o’r straeon 
          o’r llyfrau, rhai doniol yn bennaf, gydag un neu ddwy arall yn 
          fwy difrifol fel stori am y dyn a gyhuddwyd o drosedd ddifrifol iawn 
          yn y llys ynadon a ddihangodd. Er fod llawer o heddlu y sir yn chwilio 
          amdano, cafodd ei ail-ddal gan Bobi'r Pentref yn ddiweddarach. Daeth 
          y cyfarfod i ben gyda phaned o de a dim prinder pynciau i’w trafod. 
          
        Bydd ein cyfarfod 
          nesaf yn Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Dachwedd 13eg. 
        Croeso i aelodau hen 
          a newydd.
        Tachwedd 2023
          Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023 yn Yr Hen Ysgol ar 
          nos Lun, Tachwedd 13. Ar ôl croesawi’r aelodau, a gan ddilyn 
          yr agenda, soniodd Glynwen ein cadeirydd am ein gweithgareddau dros 
          y flwyddyn ac am y siaradwyr a gawsom yn ein cyfarfodydd, ein diwrnod 
          allan blynyddol, eleni, i Bantycelyn a Llanymddyfri ym mis Mai, a’r 
          daith dywys o amgylch Eglwys Nanhyfer gan Steve Watkins ym mis Gorffennaf, 
          gan ddiolch i Brenda am drefnu'r ddau ddigwyddiad. 
          Soniodd Glynwen hefyd am gyfarfod mis Hydref pan ddaeth John Cwmbetws 
          â llyfrau lloffion Mrs Vittle i ni i’w gweld, a mynegodd 
          ei diolch i Dilwyn ac Ann am adael i ni eu benthyca am y noson yng ngofal 
          John a dywedodd y byddai’n croesawu’r cyfle i’w gweld 
          eto gan fod cymaint ohonynt. 
          Diolchodd i Will am y ffilmiau byr a ddangoswyd ym mhob cyfarfod busnes 
          trwy gydol y flwyddyn. 
        Yr ydym wedi cael llawer 
          o ymholiadau yn ystod y flwyddyn, rhai wrth bobl a oedd wedi dod o hyd 
          i’n gwefan tra yn gwneud hymchwiliadau. Mae llawer i ddysgu wrth 
          ymateb i’r ymholiadau hyn.
        Fe wnaeth Brenda ein Trysorydd 
          adrodd am ein materion ariannol, er yn foddhaol, roedd ychydig yn llai 
          yn y banc nag y llynedd.
        Swyddogion 2024. 
          
          Ni wnaed cais gan aelodau am newid, gofynnwyd i’r swyddogion yn 
          unigol a fyddent yn fodlon parhau yn eu swydd, a chytunodd pob swyddog 
          i wneud blwyddyn arall..
           Fydd ddim newid i'r tâl 
          am aelodaeth, £10 am flwyddyn, a fydd tal ar y noson neu ddigwyddiad 
          o £3 i rhai nad ydynt yn aelodau.
          Bu cyfarfod busnes yn dilyn, lle bu trafod ar faterion a gwnaed penderfyniadau. 
          
          Wedyn mwynhawyd paned a sgwrs cyn troi am adre.
        Rhagfyr 2023
          Ar nos Lun, Rhagfyr 11eg, bu tua 40 o aelodau a gwesteion y Gymdeithas 
          yn dathlu’r Nadolig yn y Salutation Inn, Felindre.
          Yn absenoldeb ein Cadeirydd Glynwen trwy salwch, Diana Vaughan Thomas 
          ein Is-Gadeirydd gymerodd yr awenau gyda weddi fyr cyn bwyta. Ar ôl 
          mwynhau pryd hyfryd o fwyd, fe wnaeth Diana ddiolch i staff y Salutation 
          am y bwyd ac am eu gwasanaeth siriol ac effeithlon, fe wnaeth ddiolch 
          i Brenda ein Trysorydd am y trefniadau. John Cwmbetws Davies oedd ein 
          siaradwr gwadd, diolchodd Diana i John a Bethan am dderbyn y gwahoddiad. 
          Fe wnaeth John siarad gyda thema hanes lleol, siaradodd ychydig am ei 
          atgofion yn blentyn ysgol, ac ymwneud y teulu â’r Cyngor 
          lleol yn Eglwyswrw, pan ddaliai swydd Cadeirydd y Cyngor lleol yn y 
          90au, yr oedd yn dilyn traddodiad ei hynafiaid o’i flaen. Siaradodd 
          am cymeriadau’r fro ac roedd yna lawer o chwerthin. Diolch i John 
          am ddiweddglo perffaith i noswaith arbennig. 
          Fydd ein cyfarfod nesaf yn Yr Hen Ysgol ar Ionawr 8fed am 7.30yh. 
          Cyfarfod busnes a fydd yn dechrau gan ddangos casgliad o ffilmiau sine 
          a ffilmiwyd o gwmpas Eglwyswrw tua 60 mlynedd yn ôl. Croeso i 
          aelodau hen a newydd.
          
          
          Swyddogion ar gyfer 2024.
        Cadeirydd - Glynwen 
          Bishop. 
        Is-gadeirydd - 
          Diana Vaughan Thomas.
        Ysgrifennydd - 
          Will Thomas. 
        Trysorydd - Brenda 
          James. 
        Archwilydd - Adrian 
          Charlton.
        Bydd ein cyfarfodydd 
          busnes yn dechrau drwy ddangos ffilm fer o ddiddordeb lleol.