Nodiadau o'r 
          Cofnodion
        Cyfarfod mis Ionawr 
          wedi'i ganslo fel rhagofal covid.
        Cyfarfod Chwefror 
          14eg 2022
          Cynhaliwyd ein cyfarfod ar Chwefror 14eg. Ein siaradwraig gwadd oedd 
          Heather Tomos, teitl ei chyflwyniad oedd ‘Tri o Gyn-Aelodau Seneddol 
          Sir Benfro’, gyda chymorth lluniau a gwybodaeth ar sgrin soniodd 
          am fywydau personol a phroffesiynol Walter Roch; Charles Price a Desmond 
          Donnelly, bu rhyngweithio da rhwng yr aelodau wrth i rai ddwyn i gof 
          etholiadau’r gorffennol ac aelodau seneddol a oedd yn cynrychioli 
          Sir Benfro.
          Yn dilyn, bu cyfarfod busnes, trefnwyd fydd ein Trysorydd Brenda James 
          unwaith eto yn trefnu y daith undydd eleni, taith dywys o amgylch Abaty 
          Ystrad Fflur ac Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi gyda phryd o fwyd 
          i gloi’r diwrnod ar ein ffordd adref. Oherwydd covid cafodd y 
          daith hon, a oedd wedi'i chynllunio ar gyfer 2020 ei chanslo.
          Ymhlith eitemau eraill, buom yn trafod cael tudalen ‘facebook’. 
          Cynigiodd Heather sefydlu’r dudalen, i helpu i hyrwyddo hanes 
          lleol a gwaith y Gymdeithas, a hefyd i fod yn fwy hygyrch i’r 
          cyhoedd. Derbyniwyd y cynnig hwn gyda diolch. Mae’n bleser gennym 
          gyhoeddi bod y dudalen ‘Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw Heritage 
          Group’ bellach ar gael ac wedi denu llawer o ddiddordeb. Cyfarfod 
          busnes fydd mis nesaf. Mae croeso bob amser i aelodau newydd.
        Cyfarfod Mawrth 
          14eg, 2022
          Cynhaliwyd ein cyfarfod Mawrth 14eg, er fod y presenoldeb yn isel, cawsom 
          gyfarfod hwylus a diddorol iawn dan lywyddiaeth Enid Cole. Cafwyd trafodaethau 
          bywiog, addysgiadol a difyr, er yn gwyro ychydig oddi wrth yr agenda 
          ar adegau.
          Trafodwyd yr ohebiaeth a dderbyniwyd a gwnaed cyhoeddiadau.
          Cytunwyd y byddem yn cefnogi’r Bore Coffi i godi arian i ffoaduriaid 
          yr Wcráin ar ddydd Sadwrn, Ebrill 2 yn Yr Hen Ysgol.
          Roedd deunydd o'n harchif ar gael i aelodau ei fenthyg.
          Penderfynwyd trefniadau ar gyfer ein diwrnod allan blynyddol sydd fel 
          a ganlyn:- Ar ddydd Sadwrn, Mai 7fed byddwn yn gadael Eglwyswrw am 9.30yb 
          i gyrraedd Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi erbyn 11.30, i gyfarfod 
          ein tywysydd - Warden yr Eglwys Llinos, yna i Dregaron am egwyl a lluniaeth, 
          yna ymlaen i Abaty Ystrad Fflur, erbyn 2.30pm i gwrdd â'n tywysydd 
          - Charles Arch. Byddwn yn aros am bryd o fwyd yn Glanyrafon Arms, Talgarreg 
          ar ein ffordd adref.
          Gwahoddir aelodau a gwesteion i dalu blaendal o £10 erbyn Ebrill 
          11eg - ein cyfarfod nesaf yn Yr Hen Ysgol. Neu cysylltwch yn uniongyrchol 
          â'n Trysorydd a threfnydd y trip,  
          Brenda James ar 01239 841710
          Ein siaradwr ar gyfer ein cyfarfod ym mis Ebrill yw Eirlys Thomas a 
          fydd yn sôn am ei theithiau o’r Ariannin i’r Antarctica.
          Ymysg y materion eraill a drafodwyd oedd ein tudalen Facebook a sefydlwyd 
          gan Heather Tomos a hysbysodd fod aelodaeth hyd yma yn 176 ac mae wedi 
          denu llawer o ddiddordeb.
          Drwy gydol y flwyddyn mae gennym siaradwyr diddorol, mae croeso bob 
          amser i westeion am dâl mynediad o £3 neu ddod yn aelod 
          llawn am ffi flynyddol o £10. Te / coffi a bisgedi yn gynwysedig. 
          
          
        Cyfarfod Ebrill 
          11, 2022
          Cynhaliwyd ein cyfarfod mis Ebrill ar nos Lun yr 11fed. Roedd 17 o aelodau 
          a gwesteion yn bresennol.
          Croesawodd ein Cadeirydd Enid Cole ein siaradwraig gwadd Eirlys Thomas. 
          Teitl cyflwyniad Eirlys oedd ‘Argentina to Antarctica’ ‘Ariannin 
          i Antarctica' taith a wnaeth rai blynyddoedd yn ôl. Soniodd am 
          hanes a thraddodiadau’r lleoedd buodd yn ymweld gan, rhoi ffeithiau 
          a ffigurau o ddiddordeb. Defnyddiwyd y taflunydd a'r offer newydd sydd 
          wedi eu gosod am y tro cyntaf ac roedd y llu o luniau'n ymddangos yn 
          dda ar y sgrin fawr. Cychwynnwyd y cyflwyniad gan ddechrau yn Buenos 
          Aires ac yna ymlaen i Ushuaia, dinas fwyaf deheuol y byd, ar long wedyn 
          i Ynysoedd y Falkland a De Georgia ac ymweld â bedd Shackleton 
          a’r gorsafoedd hela morfilod segur sydd wedi eu gadael ac yn rhydu. 
          Ac yna i Antarctica gan ddangos y cyfoeth o fywyd gwyllt oedd i’w 
          gweld ar y ffordd.
          Delyth wnaeth y diolchiadau ar ran yr aelodau, penderfynwyd yn ein cyfarfod 
          mis diwethaf peidio â chynnal cyfarfodydd busnes pan fydd gennym 
          siaradwr gwadd, felly roedd digon o amser i fwynhau paned a chymdeithasu. 
          Ein digwyddiad nesaf yw ein diwrnod allan blynyddol, eleni byddwn yn 
          ymweld ag Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi ac Abaty Ystrad Fflur. Byddwn 
          yn cynnal cyfarfod busnes nos Lun Mai 7fed yn Yr Hen Ysgol.
        Diwrnod Allan. 
          Trip 2022 - Llanddewi Brefi ac Ystrad Fflur.
          Cafodd ein aelodau a 
          ffrindiau ddiwrnod bendigedig ar ddydd Sadwrn Mai 7fed gan Ymweld ag 
          eglwys hardd ac adnabyddus, Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi. Mae’r 
          Eglwys gyda’i chwedlau niferus wedi bod yn fan addoli yn Llanddewi 
          Brefi ers y 7fed ganrif. Roedd warden yr eglwys Llinos yno i'n tywys 
          o gwmpas a thynnu sylw at bwyntiau o ddiddordeb. Un bedd diddorol a 
          ddaliodd sylw pawb oedd un Ajax Ajax, roedd arysgrif ar y garreg yn 
          Gymraeg, felly efallai ei fod yn siarad Cymraeg. Ar ôl aros yn 
          Tregaron am luniaeth aethom ymlaen i Ystrad Fflur i gwrdd â’n 
          tywysydd am y prynhawn Charles Arch, a aned ym Mynachlog Fawr, ty fferm 
          drws nesaf i’r Abaty. Cychwynnodd y gylchdaith yn yr amgueddfa 
          sydd newydd agor ac yn cynnwys arddangosion sy’n adrodd hanes 
          bywyd beunyddiol y teulu Arch a fu’n byw ar y fferm o’r 
          1860au i’r 1990au. Oddi yno symudon ni i’r Abaty gan fynd 
          heibio yr hen ysgol roedd Charles yn ei fynychu. Ar ôl taith dywys 
          o amgylch yr Abaty, cawsom ein tywys o amgylch yr Eglwys. Yn gyfartal 
          â'r ffeithiau am yr adeiladau hynafol a'r adfeilion hyn roedd 
          y straeon niferus yn disgrifio'r caledi a ddioddefodd pobl yr ardal 
          dros y blynyddoedd. Cyflogaeth pobl yn y pyllau plwm a’u hamodau 
          byw, bu farw llawer iawn yn ifanc, Soniodd am eira a rhew 1947 a ddileodd 
          ffermio defaid y rhai a oedd yn pori'r mynyddoedd o gwmpas. Bu’r 
          eira mor uchel a’r ffermdy, sy’n adeilad sylweddol, tywydd 
          a wnaeth barlysu’r ardal am 12 wythnos, roedd amhosib claddi y 
          meirw gan fod y tir yn rhy galed i’r cloddwyr beddau. Erbyn i’r 
          tywydd wella roedd rhyw ddeg arch yn yr eglwys yn disgwyl eu claddu, 
          Ar ein ffordd adref mwynhawyd bryd o fwyd hyfryd yn Glanyrafon Arms, 
          Talgarreg. 
          Rydym yn ddiolchgar i’n Trysorydd, Brenda James am drefnu popeth 
          ac i bawb yn y grwp am ddiwrnod braf a diddorol.
          Bu Cyfarfod Busnes Nos Lun Mai 9fed. Nid oedd ond naw 
          aelod yn bresennol. Wedi geiriau o gydymdeimlad ag Enid ar golli ei 
          brawd Howard dechreuodd y cyfarfod.
          Ymhlith yr eitemau ar yr agenda a drafodwyd roedd rhaglen ar gyfer y 
          flwyddyn nesaf.
          Er yn gynnar yn y flwyddyn gwahoddwyd yr aelodau i gynnig syniadau.
        
         Cyfarfod Mehefin 
          13,2022.
          Ein siaradwr ar gyfer ein cyfarfod ym mis Mehefin oedd Dyfrig Harries 
          a ddisgrifiodd ei deithiau gyda ei fab Ieuan yn Affrica. Parhaodd yr 
          antur o fis Mawrth i fis Medi, a daeth i fodolaeth trwy gyfuniad o ffeithiau. 
          Roedd Ieuan yn gweithio yn Affrica fel ‘Bush Pilot’ ac roedd 
          yn dod i ddiwedd ei gytundeb yno. Penderfynodd Dyfrig ymweld â’i 
          fab er mwyn iddynt allu teithio adref gyda’i gilydd, ond nid trwy’r 
          dull confensiynol o deithio, fe benderfynon nhw deithio ar feiciau modur, 
          roedd Dyfrig eisoes yn berchen ar feic modur pwerus Yamaha, ac fe’i 
          cludodd allan i Cape Town, roedd gan Ieuan feic modur ar gyfer teithio 
          yn ôl ac ymlaen o'r gwaith, ond nid oedd y beic yn addas ar gyfer 
          y daith a gynlluniwyd. Felly, prynodd feic yr unfath â’i 
          dad, roedd wedi bod yn gwylio ei bris yn cael ei ostwng mewn garej beics 
          modur gan nad oedd llawer o alw am feiciau mawr yn yr ardal honno. Disgrifiodd 
          Dyfrig ddigwyddiadau yn arwain at ddechrau eu taith adref.
          Gan gysylltu â'i fab a theithio Namibia a Botswana cyn teithio 
          i'r de eto i Cape Town a pharatoi ar gyfer y daith hir adref, roedd 
          y ffordd a ddewiswyd yn mynd â nhw i'r gogledd ar ochr ddwyreiniol 
          Affrica, disgrifiodd y ffordd droellog yn arwain at ffin Lesotho, a 
          rhannau eraill o'r daith lle byddai'r wyneb tarmac yn dod i ben yn sydyn. 
          Soniodd am eu gweithgareddau ar hyd y ffordd, megis abseilio ac ymweld 
          â lleoedd fel y cofebau i’r rhai a fu farw yn Rorke’ 
          Drift ac Isandlwana a’r gofeb i ryfelwyr y Zulu. Pan gyrhaeddon 
          nhw ffin ogleddol Kenya, fe wnaethon ddarganfod y byddai'n rhaid iddynt 
          dalu math o dreth fewnforio, a oedd yn swm sylweddol i caniatáu 
          iddynt fynd i mewn i Ethiopia, y gellid ei adennill wrth adael y wlad 
          ond dim ond yn man mynediad. Fe benderfynon ddadosod y beiciau modur 
          a'u pacio ar gyfer eu cludo gan ‘Air Freight’ i Istanbul. 
          Oddi yno buont yn teithio ychydig cyn troi am adre ar draws Ewrop ac 
          i Aberteifi. Cododd eu hantur swm sylweddol o arian i Elusen ‘Ysbyty 
          Plant Arch Noa’.
        Cyfarfod Gorffennaf 
          11, 2022.
          Braf oedd bod mewn cyfarfod y Gymdeithas Treftadaeth gyda nifer dda 
          o aelodau ar nos Lun Gorffennaf 11eg.
          Mae’r nifer sydd yn dod i’n cyfarfodydd yn cynyddu'n araf 
          ers i'r cyfyngiadau covid gael eu codi.
          Ein siaradwr gwadd oedd y Parch Roger Antell o Dinas a theitl ei gyflwyniad 
          oedd
          ‘Gwasanaethau Post Cynnar yn Sir Benfro’
          Roedd y cyflwyniad yn ymdrin â datblygiad y gwasanaethau post 
          yn Sir Benfro, o’i gychwyn yn 1600, hyd at 1921.
          Ffurfiwyd y gwasanaeth post cyntaf yn gynnar yn y 1600au a’i brif 
          bwrpas oedd cyfathrebu â De Iwerddon, roedd negeseuon yn cael 
          eu hanfon o Lundain ar gefn ceffyl i Dale ac yna mewn cwch i Iwerddon. 
          Bryd hynny roedd y gwasanaeth post at ddefnydd y llywodraeth yn unig.
          Yn ddiweddarach yn yr 17eg ganrif ehangodd y gwasanaeth post i gludo 
          llythyron unigolion preifat er bod y gost yn golygu mai dim ond i'r 
          cyfoethog yr oedd hyn yn fforddiadwy. Anfonwyd pob llythyr i Lundain 
          lle cawsant eu stampio, ac yna eu hanfon ymlaen i'w cyrchfan lle byddai'r 
          derbynnydd yn talu'r gost.
          Yn ei gyflwyniad, dangosodd Roger sampl o’r cyfeiriadau a oedd 
          ar rhai llythyrau yr adeg hynny, roedd rhain yn ddisgrifiadol yn hytrach 
          nag yn gyfeiriad pendant. Roedd ganddo hefyd arddangosfa o gardiau gwybodaeth 
          yn dangos rhai arddangosion prin ar ffurf llythyron wedi'u stampio ac 
          ati.
          Wrth i’r gwasanaeth post ddod yn fwy trefnus, gadawyd llythyron 
          mewn ‘tai derbyn’ yn aml mewn tafarndai neu gaffis ac oddi 
          yno fe eu hanfonwyd ymlaen i Swyddfeydd Post a oedd wedi eu lleoli yn 
          trefi mwyaf yr ardal.
          Cyflwynwyd cerbydau post (coets) ar ddiwedd y18fed 
          ganrif a roedd rhain yn cludo teithwyr yn ogystal â phost. Yn 
          ogystal â gyrrwr y goets roedd yna warchodwr hefyd.
          Yn y 1840au gwellwyd y gwasanaeth post ymhellach trwy gyflwyno’r 
          ‘Penny Post’. Gellid anfon llythyrau i unrhyw le yn y wlad 
          am gost stamp ceiniog. Roedd gan Penny Post, Aberteifi is-swyddfeydd 
          post yn yr ardal gyfagos, a byddent yn stampio'r llythyron cyn eu hanfon 
          ymlaen i Aberteifi. Byddai swyddfa bost Eglwyswrw yr agosaf o’r 
          swyddfeydd post yn stampio'r llythyron gyda (No1).
          Roedd gan Roger wybodaeth hefyd am bobl leol a oedd yn ymwneud â'r 
          gwasanaeth post.
        Cafodd y cyflwyniad dderbyniad 
          da, a chafodd yr aelodau gyfle i gwestiyni Roger cyn treulio peth amser 
          yn cymdeithasu gyda phaned a astudio’r arddangosion.
        Cyfarfod Medi 
          12,2022.
          Cynhaliwyd cyfarfod y Gymdeithas Treftadaeth mis Medi ar ddydd Llun 
          y 12fed. Yn gyntaf, fe wnaethom sefyll mewn distawrwydd am ddwy funud 
          er cof am y Frenhines Elizabeth II, yna croesawodd ein Cadeirydd Enid 
          Cole ein siaradwr gwadd sef Peter Claughton. Teitl ei gyflwyniad oedd 
          ‘Lead and Slate Resources in North Pembrokeshire’ Adnoddau 
          Plwm a Llechi yng Ngogledd Sir Benfro.
          Gyda chymorth lluniau a mapiau wedi’u taflunio, disgrifiodd Peter 
          y mwyngloddiau a chwareli ein hardal a’r ffordd yr oeddent yn 
          cael eu gweithio.
          Amlinellodd ddaeareg Sir Benfro yn ei chyfanrwydd, o lo yn y de i blwm 
          a llechi yn y gogledd. Disgrifiodd y mwyngloddiau plwm yn Llanfyrnach 
          a oedd ar eu hanterth yn 70au ac 80au’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 
          Daeth cynhyrchu'r mwynglawdd i ben ym 1890 pan gollwyd y wythïen 
          oherwydd diffygiad ac ni allent barhau, ond parhaodd diddordeb yn y 
          mwynglawdd plwm am flynyddoedd lawer wedyn, ond ni chafodd ei ailagor. 
          
          Disgrifiodd Peter y chwarel lechi yn Rosebush a hefyd Glog; Cilgerran 
          a mwyngloddiau a chwareli llai eraill. Disgrifiodd yr amodau gwaith 
          a'r dull o symud y deunydd o'r mwyngloddiau a'r chwareli. Cafodd ei 
          gyflwyniad dderbyniad da gan yr aelodau a deimlai eu bod wedi dysgu 
          llawer am y diwydiant mwyngloddio a chwareli a oedd yn cyflogi cannoedd 
          o bobl yn eu dydd, er bod y lleoedd hyn yn adnabyddus i’r mwyafrif, 
          roedd yn ddiddorol iawn clywed hanes y gweithleoedd pwysig hyn. Wedyn 
          fe wnaethom fwynhau cymdeithasu gyda phaned a bisgïen.
          
          Cyfarfod Hydref 10,2022
          Cynhaliwyd cyfarfod busnes y Gymdeithas Treftadaeth ar nos Lun, Hydref 
          10fed. Gan na allai ein Cadeirydd Enid Cole fod gyda ni, cadeiriwyd 
          y cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd Diana Vaughan Thomas.
          Cyfarchodd Diana yr aelodau a gofynnodd i bawb sefyll am funud o dawelwch 
          er cof am aelod ffyddlon - Mrs Audrey Jones a fu farw ar Medi 27.
          Roedd gennym agenda lawn i’w drafod, roedd llawer o ohebiaeth 
          a chyhoeddiadau,
          Cyhoeddwyd bod Glynwen a Mike Bishop wedi codi £50 gyda bwrdd 
          llyfrau ail-law ar ran y Gymdeithas yn y Sioe flynyddol CADAMM a gynhaliwyd 
          yng Ngharnhuan yn yr haf. Rhoddwyd yr arian, £50 i ‘Banc 
          Bwyd Aberteifi’.
          Buom yn trafod ein rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf, bydd gennym bum 
          siaradwr yn ystod y flwyddyn, bob yn ail fis am ran gyntaf y flwyddyn, 
          gyda’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd a Dathlu’r 
          Nadolig ym mis Rhagfyr. Ac ar gyfer atyniad ychwanegol bydd ein cyfarfodydd 
          busnes o fis Ionawr 2023 yn dechrau drwy ddangos ffilm fer o ddiddordeb 
          hanesyddol neu ryw nodwedd arall, penderfynir beth fydd yr atyniad o 
          fis i fis.
          Cynhelir Gwasanaeth Sul y Cofio’r Pentref yn Eglwys Sant Cristiolus, 
          Eglwyswrw ar ddydd Sul, 13eg Tachwedd, dewiswyd Glynwen i osod torch 
          ar ran y Gymdeithas.
          Atgoffwyd yr aelodau fod gennym lyfrau heb eu gwerthu, sydd bellach 
          yn cael eu gwerthu am bris gostyngol.
          Mae gan ein tudalen Facebook 310 o aelodau ac mae wedi cael derbyniad 
          da, rydym wedi dangos llawer o luniau o’n casgliad ar y dudalen 
          hon drwy gydol y flwyddyn. Mae sganiau o lyfr lloffion Sefydliad y Merched 
          Crosswell (Crosswell W.I. Scrapbook 1947) yn tynnu llawer o sylw. Roedd 
          Glynwen wedi darganfod mai gwaith Mrs Frances Margaretta Morris, Bannondale 
          yw’r llyfr, gyda rhywfaint o gymorth gan aelodau eraill o Sefydliad 
          y Merched Crosswell siwr o fod. Cynhyrchwyd y llyfr rhywbryd yn y 1950au.
          Gyda materion eraill wedi'u penderfynu fe wnaethom fwynhau ein paned 
          arferol a sgwrs.
        Cyfarfod Tachwedd 
          14,2022.
          Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022 yn Yr Hen Ysgol ar 
          nos Lun, Tachwedd 14eg.
          Ar ôl croesawu’r aelodau, gofynnodd Enid i bawb sefyll am 
          funud o dawelwch i gofio am Graham ac Audrey, aelodau sydd wedi marw’n 
          ddiweddar, ac fel arwydd o barch i’n ffrindiau sydd wedi colli 
          aelodau o’r teulu ers ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf.
          Yn ystod y cyfarfod bu Enid yn sôn am ein gweithgareddau dros 
          y flwyddyn, am siaradwyr gwadd a ddaeth atom ac am ein diwrnod allan 
          blynyddol ym mis Mai, taith dywys o amgylch Eglwys Llanddewi Brefi ac 
          Abaty Ystrad Fflur yr Eglwys a’r Amgueddfa.
          Gwahoddwyd yr aelodau i gynnig swyddogion newydd, roedd Enid yn dymuno 
          rhoi'r gorau i fod yn Gadeirydd, swydd y mae hi wedi bod ynddi ers sawl 
          blwyddyn. Pleidleisiwyd Glynwen Bishop i fod yn Gadeirydd am y flwyddyn 
          i ddod. Gofynnwyd yn unigol i swyddogion eraill i barhau yn eu swydd, 
          a chytunwyd i wneud hynny. Swyddogion ar gyfer 2023 fel a ganlyn. Cadeirydd 
          – Glynwen Bishop. Is-gadeirydd - Diana Vaughan Thomas. Ysgrifennydd 
          - Will Thomas. Trysorydd - Brenda James. Archwilydd - Adrian Charlton.
          Bob blwyddyn rydym yn derbyn nifer o ymholiadau gan bobl sydd wedi dod 
          ar draws ein gwefan neu tudalen ‘Facebook’. Os bydd angen 
          ymchwil, bydd Glynwen yn parhau i roi sylw i'r ymholiadau hyn fel y 
          gwnaeth yn y gorffennol.
          Cytunodd pawb i'r tâl aelodaeth blynyddol i barhau i fod yn £10 
          am y flwyddyn nesaf ac na fydd unrhyw newid yn y tâl o £3 
          i wrando ar siaradwyr gwadd i rhai nad ydynt yn aelodau.
          Bu cyfarfod busnes yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, adroddwyd 
          bod gwerthiant llyfrau yn cynyddu gan fod Nadolig yn agosáu.
          Adroddwyd bod cynulleidfa dda wedi dod ynghyd i wasanaeth Sul y Cofio 
          yn eglwys Sant Cristiolus, lle gosodwyd 18 o dorchau neu groesau gan 
          sefydliadau neu unigolion. Gosododd Glynwen dorch ar ran y Gymdeithas.
          Penderfynwyd cynnal digwyddiad yn Yr Hen Ysgol ar Ragfyr 12, (7.30pm) 
          i ddathlu’r Nadolig. Croesawyr aelodau, a'u gwesteion i ddod â 
          bwyd i'w rannu ac os dymunir, eu diodydd eu hunain. Darperir te a choffi. 
          Ar ôl y bwyta fyddwn yn canu carolau gyda Brenda wrth y ‘keyboard’.
        Rhagfyr 2022.
          Oherwydd y tywydd cafodd ein digwyddiad i ddathlu’r Nadolig yn 
          Yr Hen Ysgol ar gyfer dydd Llun, Rhagfyr 12, ei ganslo. Gobeithiwn drefnu 
          digwyddiad tebyg yn gynnar yn y flwyddyn newydd, lle gwahoddir aelodau, 
          a gwesteion i ddod â bwyd a diod i’w rhannu.
        
        Swyddogion ar 
          gyfer 2023 fel a ganlyn
        Cadeirydd – 
          Glynwen Bishop. Is-gadeirydd - Diana Vaughan Thomas. Ysgrifennydd - 
          Will Thomas. 
        Trysorydd - Brenda 
          James. Archwilydd - Adrian Charlton.
        Diolchwn aelodau am 
          eu ffyddlondeb yn y gorffennol gan edrych ymlaen i gael cyfle i gydweithio 
          a chymdeithasu eto.