Eglwyswrw 
                    and District Heritage Society 
                  Cymdeithas 
                    Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro 
                   | 
                 
  | 
               
             
            
             | 
         
       
       
        Plannwyd egin y Gymdeithas drwy weledigaeth dau o’r ardal – 
        Paul Sambrook a Dave Jenkins. Erbyn Hydref 2005 roedd cyfarfodydd rheolaidd 
        yn cael eu trefnu yn Nhafarn y Butchers. Cyfarfu pobl leol ynghyd â 
        rhai a sefydlodd yn yr ardal i ddarganfod hanes am eu cartrefi a’u 
        cymdogaeth.  
        Erbyn 2006 roedd aelodaeth y grwp wedi codi i 20 a phenderfynwyd cydweithio 
        drwy gasglu lluniau i ychwanegu at y casgliad gwreiddiol. Cyn hir roedd 
        digon o luniau i’w sganio i wneud cryno ddisg (DVD) a’u gwerthu 
        am £5 yr un. Bu’r fenter yn boblogaidd gyda digon o adnoddau 
        i gynhyrchu dwy ddisg arall. Cyn bo hir roeddynt wedi eu dosbarthu ymhell 
        ac agos. Sut bynnag, er chwilota a holi dyfal, mae un llun ar goll – 
        llun yn dangos unrhyw agwedd o’r hen Ffair Feigan – y ffair 
        nodedig a gynhaliwyd yn flynyddol yn Eglwyswrw tua diwedd mis Tachwedd. 
        Os gall unrhyw un lenwi’r bwlch buasem yn falch petaech yn cysylltu 
        a ni. 
        I gofio Ffair Feigan penderfynwyd trefnu achlysur penodol. Cynhaliwyd 
        Dydd Agored yn Yr Hen Ysgol ar 24ain o Dachwedd 2007, gydag arddangosfa 
        o arteffactau, lluniau, mapiau, llyfrau cyfeirio a llyfrau lloffion. Bu’n 
        ddiwrnod o lwyddiant ysgubol a gododd broffil y gymdeithas. Yn ystod misoedd 
        cynnar 2008 cytunwyd i ymgymryd a menter heriol – cynhyrchu llyfr 
        o atgofion ein bro mewn hanesion a lluniau. Bu cywain, didoli a chyflwyno 
        cynnyrch am bron ddwy flynedd. Yna lansiwyd y llyfr ymysg canmoliaeth 
        uchel ar 12fed Rhagfyr 2009. 
        Mae rhan fwyaf o'r llyfrau wedi eu gwerthu gyda chanran wedi eu dosbarthu 
        dros Brydain a thramor i deuluoedd sy’n ymchwilio eu gwreiddiau. 
        Ffynnu o nerth i nerth yw hanes y Gymdeithas. Mae aelodaeth rhan fwyaf 
        o flynyddoedd tua 30 - 40. Bu bri ar wrando ar hanesion a phrofiadau siaradwyr 
        gwadd yng nghyfarfodydd cyson yn Nhafarn y Butchers a’r Hen Ysgol. 
        Trefnir ymweliadau i leoedd megis y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, 
        Gerddi Aberglasney, ac wrth gwrs i Amgueddfa Werin San Ffagan. Bu siwrneiau 
        nes adref diddorol megis teithiau cerdded i Garnedd Meibion Owen a gallt 
        Tycanol ac ymweliad cofiadwy dros y ffin i Sir Gâr i’r Eglwys 
        Eidalaidd yn Henllan. Rhaid peidio anghofio hefyd y pleser o droedio llwybrau 
        a darganfod atyniadau lleol o fewn ein pentref - Eglwyswrw.  
        Dros y blynyddoedd mae'r Gymdeithas wedi parhau ei gwaith o gasglu a chofnodi 
        hanes yr ardal. Rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn rhoddion o ddogfennau 
        a ffotograffau sy'n gysylltiedig â hanes lleol. Mae yna bob amser 
        brosiectau ar y gweill. Y mwyaf amlwg oedd y prosiect Brodyr James, wedi 
        ei enwi felly gan mae hyn oedd y cyntaf mewn gyfres o brosiectau mae'r 
        Gymdeithas wedi derbyn Grant y Loteri sylweddol ar eu cyfer. 
        Yn Chwefror 2013 cynhaliodd y Gymdeithas weithdai yn y Fferm Ceffylau 
        Gwedd, fel rhan o'r brosiect Brodyr James a’i reolir gan Rheinallt 
        James, lle roedd plant o bob oed a gallu wedi cael y cyfle i ddefnyddio 
        offer o gyfnod Howard a Herbert James o Arberth a adeiladodd ac yna hedfan 
        eu ‘Caudron Biplane' gan mlynedd yn ôl.  
        Bu’r plant yn gweithio ar ‘propeller’, a gwneud helmedau 
        hedfan o ledr yn ogystal ac adeiladu cyfarpar stêm ar gyfer plygu 
        pren. Yr oedd yn hyfryd i weld pobl ifanc yn defnyddio hen offer oedd 
        ar gael yn amser y Brodyr James, gyda llawer yn dangos lefel dda o sgiliau. 
        Yn yr ail weithdy roedd hyd yn oed mwy o bobl yn cymryd rhan. 
        Rydym yn parhau i ymweld â safleoedd o ddiddordeb hanesyddol, Canolfan 
        Dreftadaeth Gwyr, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Castell 
        Aberteifi, Eglwys Manordeifi, Caer Oes yr Haearn, Castell Henllys, Amgueddfa 
        Cwryglau Cenarth i enwi ond ychydig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym 
        wedi canolbwyntio ar lefydd o ddiddordeb hanesyddol yn Sir Benfro. Rydym 
        wedi mynychu cyfarfodydd ar gyfer 'Aelodaeth o Gymdeithasau Hanes' yn 
        Llyfrgell Hwlffordd i wrando ar ddarlithoedd o amrywiaeth o bynciau yn 
        gysylltiedig â hanes. Yn anffodus mae'r rhain wedi dod i ben. Ddangosodd 
        y Gymdeithas fodel o awyren y Brodyr James, gyda efelychydd yn Eisteddfod 
        yr Urdd 2013 ym Moncath, a hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2014, 
        yn Llanelli, mwynhawyd hefyd teithiau i lefydd a oedd yn gysylltiedig 
        ag awyrennau. Y mwyaf cofiadwy oedd ein hymweliad i ‘Control Tower, 
        Carew’ lle disgrifiodd y gwirfoddolwyr brwdfrydig sut oedd bywyd 
        amser y rhyfel yn R.A.F. Carew a hynny mewn modd difyr, diwrnod fydd oedolion 
        a phobl ifanc fel ei gilydd yn cofio am amser hir i ddod. Hefyd roedd 
        ymweld a Ymddiriedolaeth Sunderland yn Noc Penfro yn brofiad gwych. Yr 
        ydym wedi helpu haneswyr teuluol o’r wlad hon a thramor a wnaeth 
        gysylltu â'r Gymdeithas gydag ymholiadau am eu cyndeidiau a oedd 
        wedi byw yn yr ardal hon. 
        Rydym wedi bod yn ffodus i ddod o hyd i siaradwyr galluog iawn sydd wedi 
        siarad ar bynciau amrywiol megis Castell Aberteifi, Y Cardi Bach, Barwniaeth 
        Cemais a Threftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru i enwi dim ond rhai. 
        Yn ystod y blynyddoedd rydym wedi coffáu Ffair Feigan gyda noson 
        o ganu yn y Butchers Arms. Byddwn yn coffau’r Ffair eto yn y dyfodol. 
        Bu y Gymdeithas yn gweithio gyda phartïon eraill i godi Cofeb Rhyfel 
        ar gyfer Eglwyswrw a'r ardal gyfagos. Mae pump ar hugain o bobl yr ardal 
        wedi marw mewn rhyfel, yn bennaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ein bwriad 
        oedd codi cofeb er cof am y dynion hyn erbyn canmlwyddiant dechrau Ryfel 
        Byd Cyntaf. 
        Cafodd gwasanaeth Goffa a Chysegru y Gofeb newydd ei gynnal yn Eglwys 
        St Cristiolus, Eglwyswrw ar Ddydd Sul y 10fed o Awst, 2014.Tua'r un amser 
        dechreuodd y Gymdeithas prosiect arall i gofio y ddau fachgen, sef Milton 
        Jones a Donald Pritchard a bu farw mewn damwain ar y Preseli yn 1944, 
        pan wnaeth y bechgyn drin neu symud ordnans milwrol a ffrwydrodd, gan 
        ladd y ddau. Roedd gan y prosiect hwn sawl agwedd yn anelu i helpu pobl 
        ifanc fod yn ymwybodol o hanes lleol yn ogystal â hanes rhyfel. 
        Cynhaliwyd gwasanaeth ar Awst 31ain 2014 i ddadorchuddio plac er cof am 
        y ddau yng nghapel Seion Crymych gyda phlant yr Ysgol Sul yn cymryd rhan 
        flaenllaw. 
        Mae llwyddiant y Gymdeithas yn ganlyniad o waith caled yr aelodau a'r 
        gefnogaeth gan y gymuned ac o ymhellach i ffwrdd. 
        Yn 2017 cafodd y Gymdeithas y fraint i weithio ochr yn ochr ag eraill 
        ar brosiect i gofio Y Parchg. Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn), un o feibion 
        enwog Gogledd Sir Benfro. Gweinidog y Bedyddwyr, Bardd, Darlithydd ac 
        Awdur. 
        Ganwyd mewn bwthyn bach ar ymyl llethr gogleddol bryniau'r Preseli ym 
        1836, manteisiodd ar yr ychydig addysg leol a oedd ar gael. Er fod llawer 
        o weinidogion wedi eu magu yn ardal a elwir yn lleol fel 'Rhos Glynmaen', 
        ef oedd y mwyaf enwog. Rydym yn ddiolchgar am yr holl gymorth a gawsom 
        ar y prosiect hwn o sawl ffynhonnell wahanol. 
        Ar Ddydd Sadwrn, Hydref 21ain 2017 am 1.30yp, cynhaliwyd Gwasanaeth o 
        Werthfawrogiad - a Seremoni Dadorchuddio Carreg Goffa Myfyr Emlyn yng 
        Nghapel Bethabara, Pontyglasier, gan gynnwys peth o'i waith yn Gymraeg 
        ac yn Saesneg, Cerddi, Emynau a Chaneuon. Mae ein gwaith yn parhau. 
       
      
      
     |